Friday, October 26, 2007

Parlo Gallese

Duw, does dim amser i flogio bellach. Dw i wedi bod yn gweithio unwaith eto ar brosiect freelance yn gwneud ymchwil cwricwlwm ar gyfer Riverside School for the Arts. Hefyd dw i wedi bod yn helpu gyda gwobrau llyfrau i bobl ifanc, yn trefnu categori nofelau graffig a hefyd ar banel enwebu yng nghategori SF/Ffantasi. Llawer o waith ydy hi, ond dw i'n cael sawl llyfrau yn rhad ac am ddim. Gwych! :)

Yup, he definitely likes meDyma ffoto ohono i yn y Ren Faire. (Rhaid i ti fod yn "cyswllt" ar Flickr i weld y weddill.) Roedd "reptile petting zoo" yno a dw i'n hoffi ymlusgiaid. Hefyd, roedd Molly, merch ffrindiau, eisiau mynd i weld yr ymlusgiaid ond doedd hi ddim eisiau mynd i mewn ar ei phen ei hunan. Felly es i i mewn gyda hi. Roedd y neidr yma yn fy hoffi fi, dw i'n credu. Neu yn meddwl fy mod i'n goeden. Un neu'r llall. Mae lluniau ohono i ar Flickr gyda neidr enfawr hefyd, 65 pwys. Roedd e'n drwm!

 dweud y gwir, mae'r Ren Faire yn gyfle i fi a'r gwr yfed cwrw drwy'r dydd. Dyn ni ddim yn hoff iawn o'r peth ond mae ffrindiau 'da ni sy'n dwlu arno fe. O, mae'n ychydig o hwyl, a dw i'n hoffi costymau, ond mae'n rhy ddrud, yn fy marn i, ac y llawn o bobl rhyfedd. (Diddorol os dych chi'n hoffi gwylio pobl!)

Ar bwnc yn hollol wahanol, ydw i wedi sôn am ein tîm pêl-droed lleol yn dod yn ôl? Mae'r San Jose Earthquakes yn dychwelyd y tymor nesaf. Hwre!!

2 comments:

James said...

Dyna pictiwr neis ohonot ti. Mae Ren Faire gyda ni nawr yn Texas hefyd. Mae'n amser da i'r faire gyda y tywydd iawn.

Sarah Stevenson said...

Diolch! Mwynheua dy Faire di yn Texas, os wyt ti'n mynd.