Thursday, July 24, 2008

Cofion y Cwrs, Rhan 2

Dw i wedi bod yn mwynhau postiau blog Emma Reese am ei phrofiadau hi ar y Cwrs Cymraeg yn Iowa. Mae llun eitha neis ohonon ni o'r ail ddiwrnod. Mae nifer o luniau 'da fi hefyd ar fy ngwefan Flickr--os wyt ti wedi cael dy farcio fel "ffrind," byddi di'n gallu gweld yr holl gasgliad. (Dw i ddim yn hoffi marcio lluniau gyda phobl ynddynt "cyhoeddus" heb caniatad.)

Ta beth, roedd yr wythnos yn llawn dop o brofiadau cofiadwy. Un o fy hoff rannau o'r Cwrs ydy'r cyfle i sgwrsio gyda myfyrwyr eraill--a thiwtoriaid--allan o'r dosbarth, yn ystod gweithgareddau'r noswaith (fel y twmpath dawns neu'r noson gwis) neu yn y dafarn dros peint neu ddau (neu tri...neu pedwar...). Â dweud y gwir, mae rhai o'r Cyrsiau fel "week-long bender" gyda dosbarthiadau drwy'r dydd a digon o gwrw gyda'r nos.

Mae'n ddiddorol gwylio pobl yn gwylio ni yn canu nerth ein pennau yn y Gymraeg. Er na fod hynny'n digwydd bob amser, bob hyn a hyn dyw hi ddim yn anarferol i'n grwp ni ganu caneuon Cymreig traddodiadol fel "Yma o Hyd" neu "Calon Lân" ynghanol rhyw dafarn ddi-feddwl-ddrwg yn Nghanol America.

Dw i'n cofio y tro cyntaf y roeddwn i ar y Cwrs, ym 1999 yn Nhoronto, Canada. Bron bob nos, roedd grwp eitha mawr yn y dafarn ar y campws yn yfed cwrw ac yn canu tipyn bach. Roedd cyfle i fi ymlacio digon i ddefnyddio fy Nghymraeg! Ond hefyd, y tro 'na des i i nabod y tiwtoriad hefyd--Heini Gruffudd oedd fy athro y flwyddyn 'na, a hefyd roedd Mark Stonelake, Steve Morris, ac Emyr Davies yno. Erbyn diwedd yr wythnos, teimlais i fel bod pob un ohonynt, ond yn enwedig Mark a Steve, yn ffrindiau go iawn. Dyna pam mae'r Cwrs yn ddigwyddiad mor arbennig bob blwyddyn--y ffrindiau dw i'n eu gweld dim ond unwaith y flwyddyn neu bob yn ail flwyddyn. Wrth gwrs, petaswn i'n cael y cyfle i'w gweld nhw'n fwy aml, baswn i'n hapus hefyd...efallai bydd taith i Gymru yn y dyfodol os dw i'n gallu ei fforddio hi.

5 comments:

Chris Cope said...

Fel rhywun sydd wedi gwneud mis o gyrsiau yng Nghymru, gallaf ddweud y swnia dy brofiadau i fod yn fwy difyrrus. Does dim math cymdeithasu mewn cyrsiau yng Nghymru. Er, dwi ddim yn siwr y gallwn ddioddef canu "Yma o Hyd." Mae yna rywbeth am y gân 'na a achosa falu dannedd ynof.

Corndolly said...

Dw i wedi bod mewn cyrsiau Cymraeg dros yr Haf yma yng Nghymru, ac dw i'n tueddu cytuno efo Chris, doedd 'na ddim llawer o weithgareddau cymdeithasol ar ol y dosbarthiadau. Unwaith, arhosais i mewn llety mewn un coleg, ron i'n disgwyl i fod yn gallu siarad Cymraeg efo'r pobl arall a oedd yn aros yno, ond Na! dim siawns o gwbl. Doedd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. Mae dy brofiad yn swnio'n llawer well. Dw i'n hoff iawn o 'Yma o Hyd' hefyd, gyda llaw. Sori Chris.

Emma Reese said...

Mae'n ddiddorol darllen dy brofiad yn y dafarn achos mod i ddim mynd yno. Wel, roedd pawb yn barchus ac ar amser y bore wedyn er gwaetha'r peint neu ddau neu hanner dwsin!

Diolch am y lluniau.

asuka said...

diddorol darllen dy adroddiad di, sarah, ac eiddo emma reese. mae e yn swnio fel lot o hwyl.

diddorol oedd darllen sylwadau chris a corndolly hefyd. a finnau 'di gwneud ambell i gwrs preswyl tebyg yng nghymru a chael rhai profiadau da iawn, ga' i ychwanegu gair o blaid y cyrsiau yng nghymru? mae 'na sawl peth a fydd yn effeithio ar faint y bydd dysgwyr yn cymdeithasu drwy gyfrwng y gymraeg tu fas i'w gwersi yn nhŷb i:
• lle. os cynhelir sut gwrs yng nghaerdydd, bydd e'n denu lot o bobl sy'n byw yn nghaerdydd, pobl a fydd eisiau mynd adre'n syth. cefais brofiadau gwell yn llambedr-pont-steffan, lle nad oedd gan neb ddim i'w wneud ond cymdeithasu â'i gilydd. (fuest ti yn llambed erioed? byddet ti'n deall.)
• y tiwtoriad. bydd dysgwyr yn tueddu i ymddwyn fel plant gan ddilyn arweiniad eu tiwtoriad. so bydd hi'n gwneud gwahaniaeth mawr os bydd y tiwtoriaid yn llawn brwdfrydedd wrth drefnu gweithgareddu neu os gwnân nhw jest awgrymu cwarfod yn anffurfiol gyda'r nos i siarad cymraeg. (ac os cynhelir cwrs yng nghaerdydd wrth gwrs, bydd y tiwtoriad nhwthau am fynd adref i wylio'r teledu'n syth ar ôl y gwersi - gwaith anodd yw addysgu.)
• y dysgwyr eraill. mater o lwc yw hyn. mae'n wir y bydd 'na bobl ar gyrsiau yng nghymru sy'n gorfod gwneud y cwrs ar gyfer y gwaith, neu fel rhan o radd maen nhw'n ei wneud, ond fe fydd rhai o'r rhain yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddysgu'r iaith tra bydd rhywun arall yn talu.

mae 'na hwyl i'w gael drwy ddysgu cymraeg yng nghymru! (a thrwy ddarllen y blog hwn - rwy'n edrych 'mlaen at gael darllen rhagor.)

Emma Reese said...

Fedrwn ni ddim dewis tiwtor a dysgwyr eraill yn y dosbarth, ond ti'n iawn, dan ni i gyd yn medru siarad Cymraeg cymaint â phosib tu allan i'r dosbarth.

Dyna un o'r pethau rô i'n gwerthfawrogi yn y cwrs diwetha. Roedd pawb ar lefel 7 yn awyddus i siarad Cymraeg.

Asuka, rhaid i ti sgwennu am dy brofiadau yn y cyrsiau yng Nghymru yn dy flog.