Tuesday, July 01, 2008

Gweithio, gweithio, gweithio...

Mae popeth yn brysur fel arfer. Dim amser i flogio. A pan dw i'n ymlacio dw i'n bant drwy'r dydd hefyd, mae'n ymddangos--dydd Sul fe aethon ni gyda cwpwl o ffrindiau i rafftio i lawr yr afon Americanaidd yn Sacramento (rhyw awr a hanner i ffwrdd). Dim white water rafting oedd hi, jyst arnofio i lawr yr afon mewn rafft gyda llawer o gwrw. Gwelon ni lawer o adar a cwpwl o dwrgwn hefyd, yn chwarae yn y dwr ar lan yr afon. Yfais i tipyn gormod; roedd y tywydd yn braf ond eitha twym.

Mae un o'r ffrindiau oedd gyda ni, dyn o'r enw Mike, ynghanol tipyn o "argyfwng canol oed" os mae hynny'n gwneud synnwyr. Mae e'n ffansio ffrind arall ni oedd yn y rafft, merch o'r enw Jay sy'n priodi a ffrind ohono fe. Mae Mike yn priodi hefyd, ond mae e a'i wraig yn meddwl o'i hunain fel swingers. Y problem yw, does neb yn ein grwp ni'n cael unrhyw diddordeb mewn gwneud hynny gyda nhw.

Ta beth, tan bellach doedd e ddim yn dangos unrhyw diddordeb mewn fi (diolch byth), ond dydd Sul ar y rafft penderfynodd e fy slapio i ar y pen ol. Do'n i ddim yn hollol cyfforddus gyda hynny...

3 comments:

Chris Cope said...

Ahh, swingers. Mae'n swnio tipyn gorfeirniadol i ddweud hyn, efallai, ond maen nhw'n taro fi fel pobl unig a gwag dros ben. Methu bod yn hapus gyda'r hyn sydd ganddyn nhw, methu cael y hyder i fynd ati o ddifrif i wella pethau.

Wedi dweud hynny, mae gennyf duedd i roi slap bach ar dinnau ffrindiau. Wrth gwrs, nid swinger ydw i -- anachronistic Southerner ydw i. A gwnaf i hynny i'm ffrindiau gwryw hefyd.

Rhys Wynne said...

Croeso'n ôl. Mae clywed straeon am deithiau afon fel hyn yn gwneud i rhywun sylweddoli pa mor wahanol yw Prydain a UDA (y daearyddiaeth dwi'n sôn am nid problemau dynion canol oed!). Wedi dweud hynny, mae ambell afon yng Nghymru a Lloegr a fyddai'n ddigon llydan a gyda llif digon araf i bobl wneud hyn, ond tydi o ddim y math o beth fyddai neb yn ei wneud. Efallai mai un o'r atyniadau yn UDA yw bod mwy o ardaloedd tawel ac anghysbell, tra ym Mhrydain byddai yna dai neu bentraf rownd pob cornel.

Gobeithio nad oes ots 'da ti, ond dwi wedi cywirio rhai pethau.

Gwelon ni lawer o adar a cwpwl o ddwrgwn hefyd, yn chwarae yn y dŵr ar lan yr afon. Yfais i ychydig gormod; roedd y tywydd yn braf ond eitha twym.

Mae un o'r ffrindiau oedd gyda ni, dyn o'r enw Mike, ynghanol tipyn o "argyfwng canol oed" os ydy hynny'n gwneud synnwyr [ydy, mae e]. Mae e'n ffansio ffrind arall i ni oedd yn y rafft, merch o'r enw Jay sy'n briod â ffrind iddo fe. Mae Mike yn briod hefyd, ond mae e a'i wraig yn ystyried eu hunain fel swingers. Y broblem yw, does neb yn ein grŵp ni gyda unrhyw diddordeb mewn gwneud hynny gyda nhw.

Ta beth, hyd yma/hyd yn hyn doedd e ddim wedi dangos unrhyw diddordeb ynof/ynddo [sa i'n siwr fy hunan] fi (diolch byth), ond dydd Sul ar y rafft penderfynodd e fy slapio i ar y pen ôl. Do'n i ddim yn hollol gyfforddus gyda hynny...

Sarah Stevenson said...

Diolch, Rhys - dw i'n hapus cael cywyriadau. Wedi sylweddoli mod i'n ddiog nawr gyda chynnwys y to bach y dyddiau 'ma, oherwydd mae'n anodd ei ychwanegu e at e-bostiau.

Wrth gwrs mae hi'n eitha haws i'w ddefnyddio yn Blogger ond mae arferion drwg 'da fi nawr!! :D