Saturday, March 07, 2009

Audioblogio; Ieithoedd

Wel, heddiw edrychais ar feddalwedd Windows Movie Maker, sydd ar fy ngliniadur newydd. Mae webcam a mic ar y gliniadur hefyd, a gwnes i arbrawf gyda phopeth. Dw i wedi bod yn meddwl am wneud postiau fideo fel a wnaeth Chris Cope yn y gorffennol. Basai'n ffordd dda, dw i'n credu, i fi ymarfer siarad heb yn rili siarad gyda phobl. Anghymdeithasol ydw i, wrth gwrs. :) Ond, ar ôl trio pethau, dw i'n sylweddoli pa mor anodd yw hi siarad o flaen y camera. Dw i ddim yn siwr ble i edrych--ar y webcam, wrth gwrs, ond mae'n fwy naturiol edrych ar fy hun ar y sgrin, achos mae'n naturiol edrych ar wynebau sy o'ch blaen chi pan dych chi'n siarad, on'd ydy? Hefyd dw i'n obsessed gyda'r posibilrwydd mod i'n gwneud golygon rhyfedd, neu swnio'n squeaky, ac yn y blaen. Felly caiff yr hyn ychydig o ymarfer ei hun...

Bydd yn bwysig i fi ymarfer fy Nghymraeg, beth bynnag, achos bydd rhaid i fi gwella fy Sbaeneg cyn yr hydref. Mae Rob wedi cael sabbatical dros y flwyddyn ysgol 2009-2010, a dyn ni'n bwriadu teithio am fis neu mwy yn yr Eidal a De Sbaen. Wrth gwrs bydd rhaid i fi adolygu y swm bach o Eidaleg a ddysgais i yn 2007, hefyd. Mae 'da fi feddalwedd Rosetta Stone yn rhad ac am ddim (peidiwch gofyn sut!! cyfrinach yw hi) a byddaf yn chwarae gyda hynny yn y misoedd dyfodol. A dw i'n credu bod gwersi Cymraeg ynddi hi hefyd, ond dw i ddim yn siwr os basen nhw'n rhy hawdd erbyn hyn...

NB (Nodyn Bach): Dych chi'n gallu cofrestru am y Cwrs Cymraeg bellach--a dych chi'n gallu talu eich deposit ar-lein!

6 comments:

Emma Reese said...

Ceisies i hynny efo camera fideo hefyd. Dw i'n cytuno â ti. Mae'n anodd siarad o flaen camera ar eich ben eich hun. Bydd yn llawer haws cael sgwrs efo rhywun (wyneb yn wyneb, dim ar ffôn.) Ac eto, dan ni'n angen ymarfer siarad. Mae'n galed bod yn ddysgwyr Cymraeg yn America.

Chris Cope said...

Yn swyddogol, dwi ddim wedi rhoi'r gorau i wneud fideos ond does gennyf lawer o amser y dyddiau 'ma. Hefyd, ti'n iawn -- mae yn anodd siarad â neb.

Sarah Stevenson said...

Dyma'r problem gyda'r blogio hefyd, weithiau--mae hi'n teimlo fel siarad â neb! Ond wrth gwrs mae'n llawer haws sgrifennu at neb. Dwi'n gwneud hynny drwy'r amser.

Gwybedyn said...

Helo 'na!

Gaethoch chi unrhyw lwc gyda'r Rosetta Stone?

Hoffwn ddeall tipyn amdano - ydy'r rhaglen yn dda ar gyfer y Gymraeg?

Sarah Stevenson said...

Heia!

Dw i wedi bod yn defnyddio'r Rosetta Stone ar gyfer Sbaeneg, ond dw i ddim wedi edrych ar y gwersi Cymraeg eto. Ond dw i'n siwr bod y gwersi yn debyg. Maen nhw fel ymarferion o sawl math--gwrando, ysgrifennu brawddegau, darllen, siarad. Dych chi'n dysgu geirfa newydd trwy'r ymarferion gyda lluniau.

Yn fy marn i, bydd y Rosetta Stone yn dda iawn i'w ddefnyddio fel supplement i deunyddiau eraill. Mae hi'n ychydig yn od peidio cael gramadeg ffurfiol ac ati.

Gobeithio mae hynny'n helpu...

Gwybedyn said...

Diddorol iawn. Tybed sut bydd patrwm rhaglen dysgu Sbaeneg yn gweithio ar gyfer gramadeg y Gymraeg. Diddorol hefyd sut mae'n gweithio ar lefelau uchel iawn, fel bydd ei angen arnoch chi.

Pob hwyl!