Cam ar ôl cam, dw i'n mynd yn ôl at astudio Cymraeg. Achos, pawb, mae'n swyddogol: dw i'n bwriadu mynd i'r Cwrs Cymraeg eleni. Dw i heb ymarfer am fisoedd, heblaw am ambell neges e-bost, ond dw i'n gobeithio dal ati nes y Cwrs, er mwyn i fi aros mewn Lefel 7 (y lefel uchaf). Wrth gwrs, mae rhaid i fi adolygu popeth. POPETH. Yr iaith y fwyaf ddiweddar y ceisiais i ddysgu oedd Sbaeneg, ac mae nifer o ieithoedd yn rolio o gwmpas fy mhen i, pob un heb ei ymarfer ers misoedd neu blynyddoedd.
Dymunwch lwc i fi....
6 comments:
Braidd yn hwyr, ond pob lwc i ti.
Ah, dw i'n gweld, dyw e ddim yn rhy hwyr. Yn yr haf mae'r cwrs. Bues i ar wyliau yn ardal Shenandoah nôl yn y 90au, brydferth iawn.
Wyt ti'n nabod Geraint Wilson Price, y tiwtor? Dw i'n ei gofio o fy nyddiau fi fel dysgwr, ac erbyn hyn yn ei nabod fel cyd-diwtor.
Diolch, Nic. Ydw, dw i'n nabod Geraint--mae e wedi bod yn diwtor ar y Cwrs Cymraeg ers cwpwl o flynyddoedd. Mae e'n arbennig o dda--ro'n i yn ei ddosbarth e yn 2008.
Dw i'n edrych ymlaen at gweld ardal Shenandoah. Fues i erioed yna. (Wel, bues i unwaith mewn maes awyren Dulles, ond dyw hynny ddim yr un peth!)
Gwefan newydd - www.brynseionwelshchurch.org
I'm posting our service bulletins that have your pronunciation guide.
Hope you might make it to one of our gymanfas some year.
Hwyl, Chris
Diolch, Chris! I hope I can make it some year, too. Life has been pretty busy lately, but a trip to Portland sounds nice. :)
Post a Comment