Tuesday, February 28, 2012

Er Gwaetha Pawb a Phopeth...

Dw i wedi bod yn dawel iawn yn ddiweddar, dw i'n gwybod. Mae'n flin 'da fi. Dw i yma, ta beth. Ond mae pethau wedi mynd dros ben llestri! Gormod o bethau i'w wneud, i fod yn fyr amdano.

Dw i'n dal i fwriadu mynd i'r Cwrs Cymraeg eleni yn Salt Lake City (Dinas Llyn Halen!). Ro'n i'n meddwl am yrru yno--taith o tua 11 awr yn y car--a wedyn, ar ôl y Cwrs, roedd Rob yn mynd i ymuno â fi. Wedyn ro'n ni'n meddwl am gael ychydig o "road trip" o gwmpas y parciau cenedlaethol yn yr ardal cyn dychwelyd adre. OND, mae hi'n amlwg yn barod bod Rob yn rhy prysur ym mis Gorffennaf yn dysgu dosbarthiadau, felly, does dim angen i fi fynd gyda'r car ar fy mhen fy hun. Drueni.

3 comments:

Jimmy Choo Handbags said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Nic said...

Es i i Barc Cenedlaethol Seion yn Utah amser wnes i deithio dros y wlad gyda'm cariad yn y 90au. Lle arallfydol iawn. Wyt ti wedi bod yna o'r blaen?

Sarah Stevenson said...

Ydw, ond bues i yna pan o'n i'n ifanc iawn, 6 mlwydd oed neu rhywbeth, felly ro'n i'n gobeithio gweld y parc eto. Aethon ni i Barc Cenedlaethol Arches hefyd--mae hynny yn drawiadol iawn!