Wednesday, July 27, 2005

Yn ol yn California...

Ac mae'n boeth dros ben. Dyn ni wedi bod yn helpu chwaer Rob gyda peintio ei thy hi, ac does dim A/C ynddo ar hyn o bryd. Bydd rhywun yn dod cyn bo hir i rhoi A/C a central heat i mewn achos, fan 'ma, mae rhaid--mae hi'n boeth yn yr haf ac eitha oer yn y gaeaf (ond dim eira).

Y penwythnos 'ma, bydd dwy gyfnither yn dod i ymweld â ni--cyfnitheroedd bach--ifancach na fi, ta beth, bron 22 a 19. Gallen ni mynd yn rafftio ar yr afon Americanaidd yn Sacramento ddydd Sadwrn; dyn ni newydd brynu rafft ar eBay gyda padlau a phopeth. A bydden ni'n mynd â nhw i San Francisco neu Berkeley hefyd i gerdded o gwmpas, efallai siopa neu rhywbeth. (Ond mae'n gas 'da fi siopa...)

Aeth yr wythnos yn Ohio yn dda iawn. Roedd popeth yn brysur fel arfer ar y cwrs, ond er gwaethaf hynny, fe ges i siawns i redeg dwywaith (yn gynnar yn y bore, wrth gwrs--ych-a-fi). Roedd llawer o bobl newydd ar y cwrs, ac roedd hi'n neis iawn cwrdd â nhw. Hefyd, fe gwrddais i am Dewi a Cynog, myfyrwyr o Gymru oedd yn astudio yna yn Rio Grande (shwmae, Dewi a Cynog!) a fe ges i groeso cynnes oddi wrthyn nhw hefyd. Ar y diwedd, roedd hi'n wythnos gwych. Ond mae gormod o leithder yn Ohio, yn fy marn i. Mae'n well 'da fi wres sych fel yma, er bod y tymheredd wedi bod yn y 100oedd (YCH).

No comments: