Wednesday, October 13, 2004

Wedi Meddwi'n Llwyr...Am yr Ail Dro

Ych-a-fi! Teipiais i'r post 'ma i gyd y bore 'ma, a wedyn ces i rhyw broblem uffernol gyda'r modem. Mae'n gas 'da fi pan dw i'n cael problemau gyda'r cysylltiad (efallai achos bod rhaid i fi eu trwsio nhw).

Ta beth. Gwelais i bennod dda y gyfres "Futurama" ar y teledu neithiwr. Roedd 'na gymeriad o'r enw Welshy, oedd yn rhan o griw Star Trek. A pan ymddangosodd Welshy, siwr o fod, dwedodd e rhywbeth yn Gymraeg! Ond, pan es i ymchwilio ar y wê am sgript y sioe, er mwyn weld beth dywedodd Welshy, fe ddywedodd y rhan fwyaf ohonyn nhw "Welshy speaks gibberish." Do'n i ddim yn credu hynny o gwbl, wrth gwrs! Ac o'r diwedd, des i o hyd i wefan TVtome gyda disgrifiad y bennod "Where No Fan Has Gone Before". Gwych!

Dywedodd y wefan hon fod Welshy'n dweud "I am very drunk"--ac yn wir, ro'n i wedi clywed rhywbeth fel "meddwi" yn y llinell. Rhaid iddi hi wedi bod "Dw i wedi meddwi'n llwyr," dw i'n credu. Cymraeg ar y Cartwn Network! Pam? Wel, yn ôl y wefan, roedd Welshy yn cymryd lle Scotty achos pan ofynnon nhw'r actor pe basai fe'n fodlon cymryd rhan o'r sioe, dywedodd e "dim o gwbl!" Felly, wnaethon nhw Welshy yn ei le--a chafodd Welshy ei ladd ar ôl ei unig llinell.

2 comments:

Nwdls said...

Su'mai Sarah, sut mae hi'n mynd yn y Castell Tywod heddiw?

Dyma sgwrs fach sydd falla o ddiddordeb i ti...

Sarah Stevenson said...

Hei, diolch yn fawr...Roedd hynny'n wych!