Monday, August 20, 2007

Syndod Mawr

Oes ymadrodd yn Gymraeg am "smack my ass and call me Judy?" Dw i newydd ddarganfod mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer, nid un, ond dau gategori yn y Gwobrau Blogio 2007, a dw i yn y rownd derfynol. Gwych!! Ro'n i'n teimlo'n llawn cyffro, ond wedyn yn euog achos dw i ddim wedi bod yn postio yn aml iawn. Beth dw i'n gallu dweud? Dw i wedi bod yn brysur dros ben. Dros ben llestri, â dweud y gwir.

A dw i jyst wedi edrych ar y cysylltiadau yn y sidebar, a mae pethau 'na sydd wedi dyddio, ac does dim byd o gwbl dan y teitl "Rhithfro"; ble mae hynny wedi mynd??

Ta beth, dw i'n addo postio mwy aml o hyn ymlaen. Dyma broblem gyda fi a blogio. Pan dw i'n brysur iawn, dw i ddim yn gallu cyfiawnhau (?) cyfrannu i fy mlogiau. A pan dw i'n teimlo'n...ym...blinedig, neu ddim yn hapus (ie, artist pwdlyd ydw i, beth amdani??), dw i ddim eisiau blogio chwaith. Wrth gwrs, pan dw i eisiau gohirio, dw i'n llawer grefyddolach gyda'r blogio...

2 comments:

Rhys Wynne said...

Llongyfarchiadau.

Dwi'n dal yn hoff iawn o flogio ond mae ffeindio amser yn anodd. A fel ti'n dweud, pan ti'n brysur yn gwneud pethau diddorol a fyddai efallai'n werth blogio amdanynt, mae llai o fyth o amser gyda ti...achos ti'n gneud pethau eraill!

Mae rhestr y Rhithfro.com wedi diflannu. Ei brif bwrpas oedd dechrau 'blogroll' i bawb mewn ffrodd syml, ond rwan mae pobl yn creu eu blogroll eu hunain, ac mae Blogiadur.com yn rhestru'r holl flogiau Cymraeg.

Yn y mis neu ddau nesaf, bydd Rhithfro.com yn cael ei ail-lawnsio, ond byd yn wahanol iawn. Bydd fel 'hub' i popeth Cymraeg e.e. bydd y dangos:
-y 10 cofnod blog diwethaf o Blogiadur.com
-10 llun diwethaf ar Flickr gyda'r tag 'Cymraeg'
-10 fideo diwethaf ar YouTube gyda'r tag 'Cymraeg'
-rhestr rhaglenni S4C am y diwrnod
-storiau diwethaf BBC Cymru'r Byd

ayyb

Sarah Stevenson said...

Diolch, Rhys, am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â'r Rhithfro. Mae'n ymddangos bod rhaid i fi rhestru'r blogiau sydd ar Blogiadur efallai. Hoffais i ail-gynllunio fy mlogiau (a fy ngwefan) hefyd, ond unwaith eto, dim amser!!