Monday, January 03, 2005

Mae Popeth Ar Ben...

Oce, tipyn o melodrama yna. Ond dw i'n gwybod pryd dw i wedi cael fy nghuro. Os dw i'n siarad lol, mae'n ddrwg 'da fi--mae annwyd arna i. Mae'r gwres yn siarad. Wedi cymryd gormod o foddion. Neu ddim digon.

Dim lwc gyda dod o hyd i flogiau Cymraeg lleol, yr oeddwn i'n bwriadu sgwennu amdanynt ar gyfer fy erthygl nesaf ar Suite101.com. Wrth gwrs, mae Dysgwyr De-Ddwyrain yn ardderchog, ond ffeindiais i ddim byd arall o'r un fath. Efallai dylai pobl yn gwneud mwy o flogiau lleol, ond dw i ddim yn siwr os maen nhw'n bodoli'n barod.

Wel, fel awdur mae rhaid i fi fod yn hyblyg, on'd oes? Rhaid i fi edrych dros y blogiau sy 'na, a meddwl am thema newydd. Ych-a-fi, dw i'n teimlo fel pentwr o snot.

6 comments:

Rhys Wynne said...

Yn amlwg dwyt ti ddim wedi bod yn darllen Dysgwyr De Ddwyrain yn ddiweddar( :-) ) neu mi fydde ti wedi gweld dolen at Dysgu (www.dysgu.com) sef gwefan tebyg (ond gwell) ar gyfer ardal Ceredigion. Edrych ymlaen i ddarllen yr erthygl.

Blwyddyn newydd dda gyda llaw, a mae fy nesg innau wedi ei orchuddio gyda tissues llawn snot hefyd. Sniff

Sarah Stevenson said...

Diolch Rhys, Dw i wedi gweld y post 'ma ond do'n i ddim yn gwybod yr oedd dysgu.com yn sôn am Ceredigion. Yn amlwg dw i ddim wedi darllen pethau yn ofalus! :) Ta beth, diolch yn fawr am y wybodaeth. Dw i'n gallu ysgrifennu rhywbeth am ddwy wefan, a falle bydda i'n gallu ffeindio rhywbeth arall hefyd.

Sarah Stevenson said...

Wel, dw i'n dwp. Siaradais i am Dysgu.com yn fy erthygl cyntaf am flogiau Cymraeg. Duh.

Dw i wedi lladd gormod o brain cells.

Rhys Wynne said...

Sylwais i dy fod eisioes wedi ysgrifennu am dysgu.com hefyd ar ôl i mi bostio'r sylw uchod. Efallai gelli di ysgrifennu am rhai o'r blogiau dwi'n cyfeirio atynt ar fy mlog, yn arbennig yr un 'Dysgu Cymraeg' sef blog cymunedol ar livejournal, er nid yw'n flog daearyddol. Yn Saesneg mae llawer o'r 'postings' (a llwaer o'r UDA dwi'n siwr) ac os cliciwch ar flogiau aelodau'r gymuned, gwelwch mae yn Saesneg mae'nt yn cael eu hysgrifennu, gan gynnwys rhai y Siaradwyr Cymraeg iaith cyntaf/rhugl.

Sarah Stevenson said...

Oh, bendigedig--perffaith! Diolch, Rhys.

Nic said...

Mae dysgu.com yn llanast llwyr ar ôl y Nadolig, ond dw i'n gobeithio cael amser i wneud bach o waith arno ddydd Mercher. Un peth sy'n newydd, a dw i ddim wedi sôn lot am hyn ar y blog ei hun, yw mod i wedi dechrau cylchlythyr ebost i ddysgwyr (a siaradwyr rhugl) yn ein hardal ni. Dw i eisioes wedi ffeindio (ar ôl tri rhifyn) bod hynny yn ddull mwy effeithiol o gyrraedd y dysgwyr, sy ddim yn tueddu bod yn we-syrffwyr hyderus iawn. Er mor wych yw gweld y tyfiant yn y byd o flogio yn y Gymraeg, fy mlaenoriaeth gyda dysgu.com yw helpu dysgwyr dros y bont bondigrybwyll, nid i wneud blogwyr mas ohonyn nhw!

Wrth gwrs, byddai'n ddigon hawdd i wneud blog fel y rhai sy 'da fi a Rhys, ond sy'n cyfero Cymru i gyd. Yn anffodus, dydy'r bobl gyda'r adnoddau i wneud hyn ddigwydd ddim â'r agweddau agored i'r we sy'n anghrenrheidiol, a'r rhai sydd â'r agweddau heb yr amser i wneud e. Mae miloedd o bunnoedd yn cael eu taflu i ffwrdd ar wefannau does neb yn mynd yn eu defnyddio, tra bod hi'n bron yn anhosib i ffeindio mas, er enghraifft, pryd mae grwpiau CYD yn cwrdd - os dwyt ti ddim yn ddigon ffodus i fyw yn Ne Ceredigion, neu'r Dde Ddwyrain ;-)

Gobeithio bydd hyn yn newid gyda gwefan newydd CYD, sydd ar y gweill nawr.

Diolch yn fawr eto am y geiriau caredig Sarah.