Friday, August 31, 2007

Ar Ymyl Fy Sedd...

Dw i jyst eisiau dweud, ar ôl edrych ar y blogiau eraill sy'n cael eu ystyried ar gyfer y Gwobrau Blogiau 2007, dw i ddim yn siwr pam cafodd Castell Tywod ei enwebu--mae'r blogiau eraill i gyd yn a) bendigedig; b) diddorol; c) yn cael eu diweddaru yn gyson; a ch) ddwedais i "diddorol" yn barod? O wel. Dw i'n falch wedi cyrraedd y rownd terfynol ta beth.

Tipyn o wybodaeth ddiddorol (efallai--os dych chi'n cynllunio tudalennau Wê)--darganfyddais i fod lliw "hex" o'r enw "wales"--lliw gwyrdd (cliciwch yma a scroliwch rhan o'r ffordd i lawr--mae'r lliw "wales" yn y trydedd golofn). Dw i ddim yn siwr pwy a enwodd y lliw--neu pam--ond roedd ychydig o syndod i weld hynny.

2 comments:

Nic said...

Nawr 'te, mae hynny yn ddiddorol. ;-)

Do'n i ddim yn gwybod bod cymaint o enwau lliwiau yn sbec HTML.

Sarah Stevenson said...

Llawer o enwau rhyfedd hefyd! Sgwn i pwy sy'n meddwl am yr enwau 'na??