Dw i wedi bod yn mwynhau postiau blog Emma Reese am ei phrofiadau hi ar y Cwrs Cymraeg yn Iowa. Mae llun eitha neis ohonon ni o'r ail ddiwrnod. Mae nifer o luniau 'da fi hefyd ar fy ngwefan Flickr--os wyt ti wedi cael dy farcio fel "ffrind," byddi di'n gallu gweld yr holl gasgliad. (Dw i ddim yn hoffi marcio lluniau gyda phobl ynddynt "cyhoeddus" heb caniatad.)
Ta beth, roedd yr wythnos yn llawn dop o brofiadau cofiadwy. Un o fy hoff rannau o'r Cwrs ydy'r cyfle i sgwrsio gyda myfyrwyr eraill--a thiwtoriaid--allan o'r dosbarth, yn ystod gweithgareddau'r noswaith (fel y twmpath dawns neu'r noson gwis) neu yn y dafarn dros peint neu ddau (neu tri...neu pedwar...). Â dweud y gwir, mae rhai o'r Cyrsiau fel "week-long bender" gyda dosbarthiadau drwy'r dydd a digon o gwrw gyda'r nos.
Mae'n ddiddorol gwylio pobl yn gwylio ni yn canu nerth ein pennau yn y Gymraeg. Er na fod hynny'n digwydd bob amser, bob hyn a hyn dyw hi ddim yn anarferol i'n grwp ni ganu caneuon Cymreig traddodiadol fel "Yma o Hyd" neu "Calon Lân" ynghanol rhyw dafarn ddi-feddwl-ddrwg yn Nghanol America.
Dw i'n cofio y tro cyntaf y roeddwn i ar y Cwrs, ym 1999 yn Nhoronto, Canada. Bron bob nos, roedd grwp eitha mawr yn y dafarn ar y campws yn yfed cwrw ac yn canu tipyn bach. Roedd cyfle i fi ymlacio digon i ddefnyddio fy Nghymraeg! Ond hefyd, y tro 'na des i i nabod y tiwtoriad hefyd--Heini Gruffudd oedd fy athro y flwyddyn 'na, a hefyd roedd Mark Stonelake, Steve Morris, ac Emyr Davies yno. Erbyn diwedd yr wythnos, teimlais i fel bod pob un ohonynt, ond yn enwedig Mark a Steve, yn ffrindiau go iawn. Dyna pam mae'r Cwrs yn ddigwyddiad mor arbennig bob blwyddyn--y ffrindiau dw i'n eu gweld dim ond unwaith y flwyddyn neu bob yn ail flwyddyn. Wrth gwrs, petaswn i'n cael y cyfle i'w gweld nhw'n fwy aml, baswn i'n hapus hefyd...efallai bydd taith i Gymru yn y dyfodol os dw i'n gallu ei fforddio hi.